Cylch Gorchwyl

Bu cryn drafodaeth ar bwnc rhoddion ers ethol y cyn-Brif Weinidog, ac felly mae’r Pwyllgor yn credu y dylid gwneud rhagor o waith yn y maes hwn. Mae’n bwysig i’r Senedd fod mor dryloyw ac agored â phosibl, yn enwedig mewn perthynas â chael arian a rhoddion fel Aelodau o’r Senedd. Mae rhoddion o’r fath yn bwysig ar gyfer ariannu gweithgareddau fel ymgyrchoedd arweinyddiaeth, nad oes modd defnyddio adnoddau’r Senedd ar eu cyfer wrth gwrs. Fodd bynnag, mae’r Pwyllgor yn awyddus i sicrhau bod hyn yn cael ei wneud mewn ffordd sy’n cynnal hyder yr etholwyr.

Fel rhan o’r ymchwiliad hwn, bydd y Pwyllgor yn ystyried:

·         lefel y gwaith o gofnodi a datgelu rhoddion y mae’n ofynnol i Aelodau unigol ei wneud;

 

·         a ddylai fod unrhyw gyfyngiadau ar bwy all roi, ymhellach i’r rhai yr ystyrir bod Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 yn eu caniatáu;

 

·         a ddylai fod cap ar roddion gan unrhyw un endid neu unigolyn; ac

 

·         a ddylai fod amrywiad yn y rheolau yn dibynnu ar ffynhonnell y rhodd.

Ymgynghori

Yn y lle cyntaf, mae’r Pwyllgor yn awyddus i glywed gan ystod eang o bobl am y meysydd a ganlyn:

Ymwybyddiaeth

Mae’r Pwyllgor yn ystyried mai rhan allweddol o dryloywder ac ymddiriedaeth yw sicrhau bod yr wybodaeth gywir ar gael. Byddem yn awyddus i wybod:

-      A fyddech chi’n gwybod sut i gael gafael ar yr wybodaeth am ba roddion y mae gwleidyddion wedi’u cael? Os felly, pa ffynonellau ydych chi’n eu defnyddio?

-      A ydych chi’n meddwl bod gwybodaeth yn ddigonol am roddion a pha wybodaeth fyddech chi’n disgwyl iddi fod ar gael am roddion?

Gwerth rhoddion

Ar hyn o bryd, mae trothwy ariannol ar gyfer cofrestru rhodd sydd wedi dod i law, ond nid oes terfyn ar faint o arian y gellir ei roi. Byddem yn awyddus i wybod:

-      Faint o ddisgresiwn ydych chi’n meddwl y dylai gwleidyddion ei gael o ran swm yr arian maen nhw’n ei dderbyn?

-      Ydych chi’n meddwl y dylai fod terfyn ar y swm a roddir ar gyfer ymgyrchoedd penodol gan y canlynol, ac os felly, beth ddylai’r terfyn hwn fod:

a)    unigolion;

b)   cwmnïau;

c)    elusennau;

d)   sefydliadau eraill; neu

e)    ar gyfer yr ymgyrch gyfan

Atebolrwydd Ychwanegol

Ar hyn o bryd, mae’r Senedd yn cofnodi gwybodaeth am roddion ar gofrestr buddiannau’r Aelod unigol ac mae’r wybodaeth hefyd yn cael ei chyhoeddi ar wefan y Comisiwn Etholiadol. Nid oes unrhyw ofyniad arall ar yr Aelodau i gofnodi unrhyw ryngweithio ag unigolion neu grwpiau.

-      A fyddech chi’n disgwyl i bobl/unigolion sy’n rhoi i wleidyddion ddatgan neu gofrestru gwybodaeth yn rhywle?

-      Ydych chi’n meddwl y dylid cofnodi’r gwahanol ffyrdd y gall Aelodau elwa, nad ydynt yn ariannol (megis defnyddio adnoddau/cyfleusterau/gwasanaethau ac ati)?

-      Ydych chi’n meddwl bod angen dull ar y Senedd ar gyfer cofnodi rhyngweithio unrhyw grŵp penodol o bobl ag Aelodau, nad yw’n ariannol?*

* Bydd ymatebion perthnasol a ddaw i law fel rhan o’r ymgynghoriad ar lobïo hefyd yn cael eu hystyried pan fydd y Pwyllgor yn ystyried tystiolaeth ar brosesau sy’n ymwneud â rhoddion gwleidyddol a/neu ryngweithio nad ydynt yn ariannol ond a allai ddylanwadu ar Aelodau.